{ko: merch}
1 Gwae wyr cyveddachwyr cof
2 a yn wan trawan trwof
3 cynt nor hwyl gan ddwylaw
4 y pilwrn drwyr brwynswrn draw
7 saeth awchlem hirsyth owchloes
8 dan ben i bron gron yn groes
9 drwy na thorro tro treiglvrys
10 nar croen nag vn pwyth or crys
11 bach hayarn gafaelgarn gael
12 dan ddwen y dyn ddûael
13 vwchel y rhof vy llownllef
14 och vwy nog och vi nag ef
15 torri i phen cledren clod
16 ag isarn ar vn gosod
17 rhydraws yw y goravvn
18 wb gwae vi ai byw gwiw vvn
19 os marw vydd ys mawr gwae vi
20 y gwiwddyn bach om gweddi
21 rhag mor anhawdd drymgawdd dro
22 i hynnill hoedl i honno
23 dewisa oedd gyfoedd ged
24 i diainc rhac i daed
Dauid ap Gwilim